Gŵyl Gregynog Festival

Mehefin 25-26 June 2022 

Gregynog Festival, the oldest classical music festival in Wales, returns with a feast of Midsummer music in the handsome setting of Gregynog Hall near Newtown in north Powys.

Highlights in the historic Music Room include recitals by the harpist Maximilian Ehrhardt on Saturday afternoon, 25 June, and the pianist Llŷr Williams on Sunday afternoon, 26 June.

Launching the 2022 Gregynog Festival season, Artistic Director Dr Rhian Davies said: “We would like to express our thanks to the Wales Cultural Recovery Fund for enabling us to safeguard the future of the Gregynog Festival during and beyond the pandemic. Many regular Festivalgoers have kept in close touch with us during this challenging time, and I know how much we have all missed the annual treat of hearing some of the world’s finest musicians perform for us here in mid Wales.”

“Now that live events are able to resume, everybody is really looking forward to meeting at Gregynog once more for the Festival. The day programmes are designed to include a pre-concert talk and an opportunity to enjoy afternoon tea before each performance, so there will be plenty of time to catch up with friends as well as to enjoy the music.”

Gregynog Festival’s Box Office is now open and tickets and full information are available via the 2022 programme webpage, and from 01686 207100.

For the latest news, you can join the mailing list via the Festival website and follow Gregynog Festival’s Facebook page and Twitter account @gregynogfest.

See the 2022 programme.


Gŵyl Gregynog Festival

Mehefin 25-26 June 2022 

Mae Gŵyl Gregynog, yr ŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf yng Nghymru, yn dychwelyd i leoliad hyfryd Neuadd Gregynog, ger y Drenewydd yng ngogledd Powys, gyda gwledd o gerddoriaeth Canol Haf.

Ymhlith yr uchafbwyntiau fydd i’w clywed yn Ystafell Gerdd hanesyddol Gregynog bydd datganiadau gan y telynor Maximilian Ehrhardt brynhawn Sadwrn, 25 Mehefin, a’r pianydd Llŷr Williams brynhawn Sul, 26 Mehefin.

Wrth lansio tymor Gŵyl Gregynog 2022 dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig, Dr Rhian Davies: ‘Fe hoffem ddiolch i Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru am ein galluogi i ddiogelu dyfodol Gŵyl Gregynog yn ystod a thu hwnt i’r pandemig. Mae llawer o fynychwyr rheolaidd yr Ŵyl wedi cadw mewn cysylltiad agos â ni yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac rwy’n gwybod ein bod i gyd wedi’i gweld hi’n chwith gorfod gwneud heb y wledd flynyddol o glywed rhai o gerddorion gorau’r byd yn perfformio i ni yma yn y Canolbarth.

‘Yn awr fod digwyddiadau byw yn gallu ailddechrau, mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at gael cyfarfod yng Ngregynog unwaith eto ar gyfer yr Ŵyl. Mae rhaglen pob diwrnod wedi’i chynllunio i gynnwys sgwrs o flaen y cyngerdd, a chyfle i fwynhau te prynhawn cyn pob perfformiad, felly bydd digon o amser i sgwrsio â ffrindiau yn ogystal â mwynhau’r gerddoriaeth.’

Mae Swyddfa Docynnau Gŵyl Gregynog bellach ar agor ac mae tocynnau a gwybodaeth lawn ar gael ar dudalen rhaglen 2022, neu ffoniwch 01686 207100.
Am y newyddion diweddaraf, gallwch ymuno â’r rhestr bostio, a thrwy ddilyn tudalen Facebook a chyfrif Twitter Gŵyl Gregynog @gregynogfest.

Gall caffaeliad pob tocyn/digwyddiad gael ei newid i gydymffurfio â chanllawiau Covid y Llywodraeth. Os bydd angen gohirio neu ganslo, cysylltir â’r holl ddeiliaid tocynnau a chynigir ad-daliad llawn iddynt.

Rhaglen Gŵyl 2022.