Gŵyl Gregynog Festival 2017 Pageantry
Gŵyl Gregynog Festival 2017Pageantry

Gŵyl Gregynog 2013: Great Britten

Catrin Finch

Mae thema Gŵyl Gregynog 2013: Britten Fawr yn anrhydeddu canmlwyddiant genedigaeth Benjamin Britten a pherfformiodd efo Osian Ellis a Peter Pears yng Ngregynog yn 1972.

 

Yn perfformio am y tro cyntaf yn yr Ŵyl yr oedd yr Academy of St Martin in the Fields efo'r tenor Andrew Kennedy a'r chwaraewr corn Timothy Brown (Mehefin 29); y Ricercar Viol Consort o wlad Belg (Mehefin 22) a'r Harmonie Universelle o'r Almaen (Mehefin 21). Rhai o'r sêr eraill oedd yr uwch denor Iestyn Davies a'r chwaraewr liwt Thomas Dunford (Mehefin 22); allweddellwr virtuoso Mahan Esfahani (Mehefin 22); a 'Brenhines y Delyn', Catrin Finch (Mehefin 29). Roddodd y chwaraewr obo Nicholas Daniel datganiad unigol ac yn perfformiodd efo'r Britten Oboe Quartet (Mehefin 28). Ensembl rhyngwladol arall oedd yr côr siambr blaenllaw Prydeinig Tenebrae, sy'n cael ei gyfarwyddo gan Nigel Short (Mehefin 30).

 

Agorwyd yw Ŵyl efo'r cyfle prin i dreulio prynhawn ym Mhlas Dinam, cartref plentyndod Gwendoline a Margaret Davies yn Llandinam, Sir Drefaldwyn, yng nghwmni eu bywgraffydd Trevor Fishlock a'r bardd Menna Elfyn (Mehefin 20). Ymlith rhaglenni cymunedol eraill roedd cyngerdd gyda'r chwaraewr soddgrwth Guy Johnston yn Eglwys Manafon i ddathlu canmlwyddiant genedigaeth y bardd R. S. Thomas oedd yn ficer ym Manafon (Mehefin 27). Perfformiodd y Tallis Scholars yn Eglwys Trefaldwyn (Mehefin 23), ac roedd gweithdy a chyngerdd gyda'r Mellstock Band yn Eglwys Ceri (Mehefin 24). Roedd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan gynnwys cyngherddau gan Bedwarawd Llinynnol Escher o Efrog Newydd (Mehefin 26) a'r pianydd gwych Llýr Williams ar ddiwrnod canmlwyddiant geni Britten (Tachwedd 22).

 

Perfformwyr

Iestyn Davies

Academy of St Martin in the Fields

Andrew Kennedy

Britten Oboe Quartet

Catrin Finch

Escher String Quartet

Guy Johnston

Harmonie Universell

Iestyn Davies

Llyr Williams

Mahan Esfahani

Nicholas Daniel

Ricercar Consort

Tenebrae

The Mellstock Band

The Tallis Scholars

Thomas Dunford

Timothy Brown

Cofraglen

Am £5 sy'n cynnwys postio, mae dal yn bosib prynu cofraglen A4 lliw llawn tymor 2013.

 

Prynwch nawr

Enquiries / Ymholiadau

  

post@gregynogfestival.org

 

01686 207100

Print Print | Sitemap
© Gregynog Festival Company Limited

Gregynog Tregynon nr Newtown Powys SY16 3PW