Gŵyl Gregynog Festival 2017 Pageantry
Gŵyl Gregynog Festival 2017Pageantry

Gŵyl Gregynog 2011: Aur

Pedwarawd Llinynnol Escher

Aur, un o'r metalau gwerthfawr hynaf a mwyaf prydferth, oedd yr ysbrydoliaeth i raglen Gŵyl Gregynog yn 2011.

 

Am y tro cyntaf, roedd yr Ŵyl yn cynnwys ensemble lleisiol rhagorol ar bob un o'r tri phenwythnos: The Cardinall's Musick, The King's Singers ac Ex Cathedra. Parhaodd y perfformiadau disglair gan artistiaid rhyngwladol gyda'r pedwarawd llinynnol deinamig, Pedwarawd Escher o'r Unol Daleithiau, a'r perfformiwr meistrolgar ar yr harpsicord, Mahan Esfahani, a anwyd yn Iran, y rhain oll yn aelodau o gynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3. Roedd rhai o arbenigwyr blaenllaw Prydain mewn arferion perfformio sylfaenol hefyd wrth law, yn eu mysg London Baroque, The Revolutionary Drawing Room a'r London Handel Players. Y grŵp gwerin bywiog Cymreig, Calan, agorodd y tymor inni. Ymddangosodd Craig Ogden, y gitarydd o Awstralia, sy'n un o ffefrynnau Classic FM, gyda'r ffliwtydd Judith Hall; a lansiodd Sara Trickey ac Iwan Llewelyn-Jones eu CD Naxos o Sonatas William Mathias i'r ffidl.

 

Yn ystod yr Ŵyl, rhoddwyd sylw i John Orlando Parry, Cymro amryddawn oedd wedi teithio gyda Franz Liszt, pan roedd yn ddyn ifanc, ar ddwy daith i gynnal cyngherddau ym Mhrydain ac Iwerddon. Er mwyn dathlu'r cysylltiadau hyn, a deucanmlwyddiant geni Liszt yn 2011, perfformiodd Daniel Grimwood, arbenigwr yng ngherddoriaeth y 19eg ganrif, ar biano Pleyel o'r cyfnod, tra cafwyd perfformiad o waith Liszt mewn datganiad gan y pianydd eithriadol o Gymru, Llŷr Williams ar biano Steinway o'r cyfnod cyfoes.

 

Eleni, cynhaliwyd ein cyngherddau yn Aberystwyth, Ceri, Trefaldwyn a'r Amwythig, yn ogystal ag yn yr Ystafell Gerdd hanesyddol yng Ngregynog, arddangosfa ddisglair o repertoire o'r Field of Cloth of Gold via alcemeg a synesthesia i berfformiad cyntaf erioed Alone gan Eric Whitacre. Ers hynny, mae gosodiad trawiadol Whitacre o eiriau Edgar Allan Poe, wedi cael ei chyhoeddi gan Chester Music a'i recordio gan The King's Singers ar eu CD High Flight.

Perfformwyr 2011

Daniel Grimwood

Calan

The Cardinall's Musick / Andrew Carwood

Claire Jones

Craig Ogden

Daniel Grimwood

Pedwarawd Llinynnol Escher

Ex Cathedra / Jeffrey Skidmore

Iwan Llewelyn-Jones

Judith Hall

The King's Singers

Llŷr Williams

London Baroque

London Handel Players

Mahan Esfahani

Rachel Brown

The Revolutionary Drawing Room

Sara Trickey

Cofraglen

Mae dal yn bosib prynu cofraglen A4 lliw llawn tymor 2011, sy'n cynnwys erthyglau ar The Field of Cloth of Gold, Latin American Baroque, Goldberg Variations gan Bach, Robert Fludd, William Herschel, John Orlando Parry a Franz Liszt, Jean Sibelius a William Mathias. Pris £4, gan gynnwys postio.

Enquiries / Ymholiadau

  

post@gregynogfestival.org

 

01686 207100

Print Print | Sitemap
© Gregynog Festival Company Limited

Gregynog Tregynon nr Newtown Powys SY16 3PW