Gŵyl Gregynog Festival 2017 Pageantry
Gŵyl Gregynog Festival 2017Pageantry

Gŵyl Gregynog 2010: Gerddi Pleser

Noriko Ogawa

Thema guradurol Gŵyl 2010 oedd Gerddi Pleser, gyda ffocws arbennig ar erddi pleser Sioraidd mawreddog Vauxhall a Ranelagh.

 

Estynnwyd croeso i rai o grwpiau a pherfformwyr cerddorol cynharaf y byd i erddi godidog Gregynog er mwyn ail-greu cerddoriaeth a ysbrydolwyd gan erddi'r gorffennol. Y Fonesig Emma Kirkby a'r London Handel Players oedd yn cyflwyno cerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Thomas Arne i Erddi Vauxhall; roedd yr Academy of Ancient Music yn perfformio Handel a Corelli, Musicians of the Globe oedd yn canu cerddoriaeth a ysbrydolwyd gan erddi o oes Elisabeth, a'r Tallis Scholars oedd yn canu gosodiadau'r Dadeni o Song of Songs.

 

I ymestyn thema'r gerddi, crëwyd rhaglen arbennig o repertoire Rhamantaidd a chyfoes gan y pianydd rhyngwladol disglair, Noriko Ogawa, i adlewyrchu gardd Japaneaidd. Roedd datganiad gan Catrin Finch yn cynnwys cerddoriaeth gan John Parry, Parri Ddall, 'Y Telynor Dall o Riwabon' oedd yn gysylltiedig â Gerddi Ranelagh yn Llundain.

 

Perfformiwyd comisiwn Gŵyl Gregynog 2010, Capriccio gan Huw Watkins, am y tro cyntaf gan y ffliwtydd Adam Walker i gyfeiliant y cyfansoddwr. Ers hynny mae'r darn wedi cael ei gyhoeddi gan Schott Music.

 

Yn ogystal â pherfformiadau yn yr Ystafell Gerdd, cynhaliwyd perfformiad yn Oriel Davies, Y Drenewydd, yn ogystal â theithio i Riwabon i ddathlu Parri Ddall yn yr eglwys lle cafodd ei gladdu. Hefyd, aeth ein rhaglen 2009 It's Alec Templeton Time! ar daith i Efrog Newydd ar gyfer perfformiad yng Nghanolfan Lincoln fel rhan o Wales Week USA.

Perfformwyr 2010

Pavlo Beznosiuk

Academi Gerddoriaeth Hynafol / Pavlo Beznosiuk

Adam Walker

Angharad Evans

Catrin Finch

Claire Jones

Emma Kirkby

Huw Watkins

London Handel Players / Adrian Butterfield

Musicians of the Globe / Philip Pickett

Noriko Ogawa

Rhes Ganol

Robin Baggs

Robin Huw Bowen

Simon Crawford-Phillips

The Tallis Scholars / Peter Phillips

Rhaglen

Am £4 sy'n cynnwys postio, mae dal yn bosib prynu cofraglen A4 lliw llawn tymor 2010, sy'n cynnwys erthyglau am John Parry, Parri Ddall, a chyfansoddwyr Cymreig eraill y gerddi pleser Sioraidd.

Enquiries / Ymholiadau

  

post@gregynogfestival.org

 

01686 207100

Print Print | Sitemap
© Gregynog Festival Company Limited

Gregynog Tregynon nr Newtown Powys SY16 3PW