Cylch Noddwyr Gŵyl Gregynog

Gan mai elusen gofrestredig yw Gŵyl Gregynog, mae’n dibynnu’n llwyr ar haelioni cefnogwyr er mwyn parhau â’i gwaith.

 

Mae’r cynllun Cylch Noddwyr yn cynnig cyfle i gyfrannu’n uniongyrchol at ddiogelu dyfodol yr Ŵyl, ac ar yr un pryd cyfle i fwynhau amrediad o fuddiannau.

 

Am gyfraniad argymelledig o £50 y cartref, £25 i unigolion, gall aelodau Cylch Noddwyr Gŵyl Gregynog fanteisio ar gyfle i archebu tocynnau mis yn gynnar ar gyfer Gŵyl 2012, gwahoddiad i dderbyniad yn ystod yr Ŵyl, cofraglen am ddim, a chydnabyddiaeth o’u cefnogaeth yn y rhaglen pe dymunir.

 

Gellir lawrlwytho ac argraffu ffurflen gais y Cylch Noddwyr isod.

 

Os ydych chi’n drethdalwr, gellir cynyddu gwerth eich rhodd i Ŵyl Gregynog drwy gwblhau’r datganiad Cymorth Rhodd. Fel elusen, gallwn hawlio’r dreth yn ôl heb unrhyw gost ychwanegol i chi.

 

Gellir hefyd wneud cyfraniad yn uniongyrchol drwy gerdyn credyd gan ddefnyddio botwm PayPal.

 

Rydym yn ddiolchgar iawn i holl aelodau’r Cylch Noddwyr am eu cefnogaeth barhaus a hael i waith Gŵyl Gregynog.

Ffurflen Cylch Noddwyr
Ffurflen gais a datganiad Cymorth Rhodd argraffadwy
GG Ffurflen Cylch Noddwyr 15-11-11.pdf
Adobe Acrobat document [106.4 KB]