Croeso i Ŵyl Gregynog
Nodedig iawn . . . yr un fath â'r Wyl yn Verbier - BBC Radio Cymru, 2012
Top UK opera and classical music festivals of the season - The Telegraph, 2011
Top 5 best-kept secrets among festivals worldwide - Gramophone, 2010
One of the oldest and most progressive Welsh music festivals - Classical Music, 2009
Gŵyl Gregynog 2013: Great Britten
Unwaith eto daw cynulleidfa sy'n caru cerddoriaeth o bellteroedd byd i Ŵyl odidog Gregynog sy'n cael ei chynnal yn neuadd ysblennydd Gregynog, ger y Drenewydd, Sir Drefaldwyn o 20 i 30 o Fehefin 2013. Caiff yr Ŵyl hon ei disgrifio fel y gem yng nghoron gwyliau cerdd, ac eleni mae'n dathlu ei 80 penblwydd a'r thema eleni yw Britten Fawr (Great Britten).
Mae thema Gŵyl Britten Fawr yn anrhydeddu canmlwyddiant genedigaeth Benjamin Britten oedd â chysylltiadau personol â Chyfarwyddwraig Artistig yr Ŵyl sef y Dr Rhian Davies a cyfarfodd hi ef yng Ngregynog.
Dywedodd Rhian, "Mae thema eleni'n golygu llawer iawn i mi am fod gennyf hyd heddiw y llofnod a arwyddodd Britten i mi pan berfformiodd efo Osian Ellis a Peter Pears yng Ngregynog yn 1972. Freuddwydiais i erioed mai fi fyddai'n trefnu rhaglen yr Ŵyl i'w anrhydeddu."
Ganwyd Rhian yn y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, ac mae ei gyrfa unigryw fel ceidwad ac hanesydd cerdd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Bob blwyddyn mae'n trefnu Gŵyl ar thema sy'n gysylltiedig â hanes Gregynog. "Anelaf i greu rhaglen aml-haen sy'n dathlu etifeddiaeth Gregynog yn ogystal a denu perfformwyr gorau'r byd i'r safle syfrdanol yma."
Mae rhaglen eleni'n argoeli i fod yn wir wledd i'r rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth glasurol. Daw rhai o artistiaid gorau'r byd i ddehongli cerddoriaeth Brydeinig wych o saith canrif. Mae rhestr y cyfansoddwyr yn ymestyn o Dowland i Purcell a hefyd y rhai oedd â chysylltiadau â Gregynog megis Elgar, Vaughan Williams a Britten ei hun.
Yn perfformio am y tro cyntaf yn yr Ŵyl y bydd yr Academy of St Martin in the Fields efo'r tenor Andrew Kennedy a'r chwaraewr corn Timothy Brown (Mehefin 29); y Ricercar Viol Consort o wlad Belg (Mehefin 22) a'r Harmonie Universelle o'r Almaen (Mehefin 21). Rhai o'r sêr eraill yw'r uwch denor Iestyn Davies a'r chwaraewr liwt Thomas Dunford (Mehefin 22); allweddellwr virtuoso Mahan Esfahani (Mehefin 22); a 'Brenhines y Delyn', Catrin Finch (Mehefin 29). Bydd y chwaraewr obo Nicholas Daniel yn rhoi datganiad unigol ac yn perfformio efo'r Britten Oboe Quartet (Mehefin 28). Ensembl rhyngwladol arall yw'r côr siambr blaenllaw Prydeinig Tenebrae, sy'n cael ei gyfarwyddo gan Nigel Short (Mehefin 30).
Agorir yw Ŵyl efo'r cyfle prin i dreulio prynhawn ym Mhlas Dinam, cartref plentyndod Gwendoline a Margaret Davies yn Llandinam, Sir Drefaldwyn, yng nghwmni eu bywgraffydd Trevor Fishlock a'r bardd Menna Elfyn (Mehefin 20). Mae rhaglenni cymunedol eraill yn cynnwys cyngerdd gyda'r chwaraewr soddgrwth Guy Johnston yn Eglwys Manafon i ddathlu canmlwyddiant genedigaeth y bardd R. S. Thomas oedd yn ficer ym Manafon (Mehefin 27). Bydd y Tallis Scholars yn perfformio yn Eglwys Trefaldwyn (Mehefin 23), ac mae gweithdy a chyngerdd gyda'r Mellstock Band yn Eglwys Ceri (Mehefin 24). Bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan gynnwys cyngherddau gan Bedwarawd Llinynnol Escher o Efrog Newydd (Mehefin 26) a'r pianydd gwych Llýr Williams ar ddiwrnod canmlwyddiant geni Britten (Tachwedd 22).
Welcome to Gregynog Festival Croeso i Ŵyl Gregynog


